Yn ystod eich hunangyflogaeth, mae'n bosibl y bydd angen i chi ystyried taliadau cyfreithiol a phroffesiynol.
Mae'r dudalen hon yn edrych ar:
- Ffioedd Proffesiynol
- Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth – Ffi Gofrestru Flynyddol yr ICO
- Polisïau Yswiriant
Ffioedd Proffesiynol #
Yn ystod eich hunangyflogaeth, efallai y byddwch yn ystyried cyflogi gweithiwr proffesiynol i roi cyngor, fel cyfrifydd. Gellir hawlio unrhyw ffioedd y maent yn eu codi at ddibenion busnes fel treuliau busnes.
Os ydych chi'n defnyddio cyfrifydd i wneud eich ffurflen dreth, byddai eu ffi yn cael ei hychwanegu at ffurflen dreth y flwyddyn nesaf.
Ffi Gofrestru Flynyddol Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) #
Fel ymgynghorydd, bydd angen i chi fod wedi cofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Gellir hawlio'r tâl hwn fel treuliau – hebddo, ni all eich busnes weithredu'n gyfreithiol.
Polisïau Yswiriant #
Gallwch hawlio am bolisïau neu daliadau yswiriant sydd yn gyfan gwbl ar gyfer eich busnes.
Gallai'r rhain gynnwys:
- Taliadau ar gyfer Yswiriant Slimming World (Yswiriant St Benedicts)
- Yswiriant Ffôn Symudol (ffôn Slimming World yn unig)
