Wrth weithredu fel unig fasnachwr, neu fel busnes, mae'n bwysig trefnu ail gyfrif banc priodol i gadw cofnodion cywir o'ch derbyniadau a'ch gwariant. Bydd cael cyfrif ar wahân hefyd yn ei gwneud hi'n haws i chi gysoni'ch gwybodaeth ar ddiwedd y flwyddyn.
Yn dibynnu ar y banc rydych chi'n ei ddefnyddio, efallai y bydd modd defnyddio cyfrif banc 'safonol' at ddibenion rhedeg eich busnes.
Mae rhai ymgynghorwyr wedi nodi bod banciau wedi annog neu orfodi cau cyfrifon 'personol' sydd wedi cael eu defnyddio at ddefnydd busnes. Mae nifer o ddarparwyr di-ffi y byddem yn awgrymu eu defnyddio .
