Rhaid i chi anfon ffurflen dreth os yw unrhyw un o'r isod yn berthnasol.
- roeddech chi'n hunangyflogedig fel 'masnachwr unigol' ac wedi ennill mwy na £1,000 (cyn tynnu unrhyw beth y gallwch hawlio rhyddhad treth arno, neu dynnu'r lwfans personol – felly, trosiant yw hwn – nid elw )
- roeddech chi'n bartner mewn partneriaeth fusnes
- roedd gennych gyfanswm incwm trethadwy o fwy na £150,000 (megis o gyflogaeth)
- roedd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf pan wnaethoch chi werthu neu 'waredu' rhywbeth a gynyddodd mewn gwerth (fel arfer mae hyn yn ymwneud ag eiddo)
- roedd yn rhaid i chi dalu'r Tâl Budd-dal Plant Incwm Uchel
Gallwch hefyd ddefnyddio gwiriwr ar-lein CThEM i wirio a oes angen i chi gyflwyno ffurflen dreth.
