Os ydych chi'n defnyddio'ch swyddfa gartref fel lleoliad gwaith hunangyflogedig (er enghraifft, os ydych chi'n defnyddio ystafell yn eich cartref fel swyddfa gartref), gallwch hawlio tuag at dreuliau ar gyfer hyn fel y trafodwyd yn adrannau blaenorol y canllaw hwn.
Os ydych chi'n defnyddio un ystafell at ddibenion eich busnes, ac mae angen i chi wneud gwaith cynnal a chadw yn yr ystafell (er enghraifft, os oes angen ailosod y llawr yn ystafell y swyddfa gartref yn unig), gallwch gynnwys cost lawn y gwaith cynnal a chadw hwn yn eich ffurflen dreth hunanasesu.
Os oes angen y gwaith cynnal a chadw ar yr eiddo cyfan – er enghraifft, os oes angen i chi atgyweirio to cyfan y tŷ, byddech chi'n cyfrannoli'r ystafell yn erbyn nifer yr ystafelloedd yn eich eiddo, er mwyn dod o hyd i'r swm priodol i'w hawlio ar gyfer yr ystafell at ddefnydd busnes.
Enghraifft:
Mae gan Anna 10 ystafell yn ei thŷ, ac mae'n defnyddio un ohonynt at ddibenion busnes yn unig.
- Mae'r atgyweiriad i'r llawr yn yr ystafell swyddfa yn £100
- Mae'r atgyweiriad i do'r tŷ cyfan yn £200
Mae cost llawr y swyddfa yn gost gyfan gwbl i'r busnes, felly hawlir £100 fel cost busnes. Mae'r to yn cael ei rannu rhwng 10 ystafell, felly gellir ychwanegu £20 fel cost busnes.
Er gwybodaeth, ni ellir hawlio unrhyw waith cynnal a chadw ar ystafelloedd eraill, hyd yn oed os ydych chi'n eu defnyddio wrth redeg eich busnes (e.e. toiled newydd yn yr ystafell ymolchi) ar gyfer defnydd busnes yn eich cyfrifon!
