I ddefnyddio systemau ar-lein CThEM ar gyfer gweld, cyflwyno a thalu eich treth, bydd angen nifer o eitemau gwahanol arnoch – y gellir cael y rhan fwyaf ohonynt ar-lein trwy eu gwefan.
- Yn gyntaf, bydd angen i chi gofrestru gyda CThEM ar gyfer Hunanasesiad gan ddefnyddio ffurflen SA1. Gallwch gwblhau hon ar-lein .
- Arhoswch. Bydd copi printiedig yn cael ei anfon atoch yn y post, a bydd angen i chi gwblhau'r manylion olaf, a llofnodi'r ffurflen. Yn olaf, bydd angen i chi anfon hwn yn ôl i CThEM i'w brosesu.
- O fewn 8 wythnos, byddwch yn derbyn eich Rhif Cyfeirnod Trethdalwr Unigryw (UTR). Bydd angen i chi actifadu hwn ar-lein o fewn 28 diwrnod i dderbyn y cod – os byddwch yn methu hwn, bydd angen i chi ddechrau eto yng ngham 1.
- Ar ôl i chi fewngofnodi i system CThEM, fe welwch opsiwn ar yr ochr chwith 'Gwasanaethau y gallwch eu hychwanegu' lle gallwch danysgrifio i Hunanasesiad.
Awgrym: Cadwch eich ID Defnyddiwr, Cyfrinair ac UTR CThEM mewn lle diogel.
Colli eich UTR?
- Gallwch nawr ddod o hyd i'ch UTR Ar-lein yn eich Cyfrif Treth Personol

Sylwadau (0)